PRESS RELEASE
Wednesday 2 March 2022 Songs&Smiles are back! With Covid rules relaxed across Wales the popular Goldies Cymru Charity has announced that it is bringing back its Songs&Smiles fun daytime sessions for older isolated people. Prior to Covid Goldies Cymru sessions took place across South Wales. When they were forced to stop the Charity introduced its www.goldieslive.com sofa-singing sessions for people to join in at home. GoldiesLive has continued for the past 18 months with sessions on Tuesdays and Thursdays plus an additional Welsh-speaking monthly session. Goldies founder, Grenville Jones said; “We were very aware of the fact that many of the people who attended our daytime sessions prior to Covid lived lives that were lonely. If they were isolated before then Covid most certainly added to that loneliness. “We work with many Wales-based organisations on the introduction of GoldiesLive and I am delighted that we are now able to bring back some of our daytime sessions with the intention of adding many more in the months ahead. We will however continue with GoldiesLive session through to the end of this year.” Rachel Parry is the Programme Leader for Goldies Cymru which is supported by the Moondance Foundation who are based in Cardiff. Rachel said; “We are delighted that our first popular Goldies Cymru daytime sessions are starting back again this month (March) after the pandemic-enforced break. “If you enjoy a good old singalong to those well-loved hits of the 50s onwards, pop along to your nearest session, make friends and ENJOY. We are a Registered Charity and do ask please for all those attending to make a £3 donation to our work so we can extend our session reaching older isolated people across Wales.” The sessions that are starting this month are: RHYMNEY, GWENT at the Ael Y Bryn sports and community centre, Aneurin Terrace, Rhymney, Gwent, NP22 5DR on the Last Wednesday of the month from 12.00-1.00pm with Carol Pegler as session leader. TREDEGAR at the Tredegar Library, The Circle, Tredegar, Gwent, NP22 3PS on the Second Tuesday of the month from 12.00–1.00pm led by Carol Pegler. BRIDGEND St Theodore’s Church, High Street, Kenfig Hill, Bridgend, Glamorgan CF33 6DR on the Second Tuesday of the month from 11.00-12.00pm with session leader, Cheryl Davies. CARDIFF in WHITCHURCH at Ararat Baptist Church, Plas Treoda, Whitchurch, Cardiff, CF14 1PT on the First Monday of the month from 2.00-3.00pm with our session leader Geoff Ashford. RHYDYPENNAU – CARDIFF Park End Church of Wales, Llandennis Road, Rhydypennau, Cardiff, CF23 6EG - This is A WEEKLY SESSION, EVERY Thursday from 10.30-11.30am with session leader Sue Thomas. RHIWBINA – CARDIFF at Rhiwbina Library, Pen-y-Dre, Rhiwbina, Cardiff, CF14 6EH on the Third Wednesday of the month from 10.30-11.30am with Rachel Parry as session leader. CARMARTHENSHIRE at NEWCASTLE EMLYN Holy Trinity Church Community Hall, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AM on the Last Monday of the month from 11.00-12.00pm with Claire Thomas as the session leader. NEATH - PORT TALBOT a DEMENTIA SUPPORTIVE session at Tabernacle Chapel, 14 Thomas St, Pontardawe, Swansea SA8 4HD on the First Thursday of the month from 11.00-12.00pm with Naomi Bishop as session leader. THE VALE at DINAS POWYS, please note - this is CLOSED TO THE GENERAL PUBLIC and is in partnership with with C3SC - Cardiff Third Sector Council Murchfield Community Centre, Sunnycroft Lane, Dinas Powys, CF64 4QQ sessions as requested with Rachel Parry. LLANTWIT MAJOR at Lantonian Hall, behind Llantwit Major Rugby FC, off Boverton Road, Llantwit Major, CF61 1TF on the Third Monday of the month from 10.30am - 11.30am with Geoff Ashford. WATCH OUT for more sessions to be added soon. If you want to know more call Rachel Parry on 07796 714816. ENDS Image shows : Sing&Smile with the Goldies Cymru Charity. Press enquiries to Rachel Parry on 07796 714816. DATGANIAD I’R WASG Dydd Mercher 2 Mawrth 2022 Caneuon&Gwenau yn ôl! Gyda rheolau Covid wedi llacio ar draws Cymru, cyhoeddodd elusen boblogaidd Goldies Cymru ei bod yn dod â’i sesiynau hwyliog Caneuon&Gwenau yn ôl ar gyfer pobl hŷn ac ynysig. Cynhelid sesiynau Goldies Cymru yn ystod y dydd ledled De Cymru cyn y cyfnod Covid. Pan y’u gorfodwyd i ddod i ben, cyflwynodd yr elusen ei sesiynau canu soffa www.goldieslive.com i bobl ymuno â nhw o’u cartrefi. Mae GoldiesLive wedi parhau am y 18 mis diwethaf gyda sesiynau ar ddyddiau Mawrth a Iau ynghyd â sesiwn fisol Gymraeg ychwanegol. Dywedodd Grenville Jones, sefydlydd Goldies: “Roeddem yn ymwybodol iawn fod llawer o’r bobl a fynychai ein sesiynau yn ystod y dydd cyn Covid yn byw bywydau unig. Os oeddent yn ynysig cyn hynny, yna fe wnaeth Covid yn bendant ychwanegu at yr unigrwydd hwnnw. “Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno GoldiesLive ac rwyf wrth fy modd y gallwn ddod â rhai o’n sesiynau yn ystod y dydd yn ôl gyda’r bwriad o ychwanegu llawer mwy yn y misoedd i ddod. Fodd bynnag, byddwn yn parhau gyda sesiwn GoldiesLive tan ddiwedd eleni.” Rachel Parry yw Arweinydd Rhaglen Goldies Cymru a gefnogir gan Sefydliad Moondance sydd â’u pencadlys yng Nghaerdydd. Dywedodd Rachel: “Rydym yn falch iawn fod ein sesiynau cyntaf Goldies Cymru poblogaidd yn ailddechrau y mis hwn (Mawrth) ar ôl y seibiant a orfodwyd gan y pandemig. “Os ydych yn mwynhau cyd-ganu gyda’r hen ffefrynnau o’r 50au ymlaen, ewch draw i’ch sesiwn agosaf, gwneud ffrindiau a MWYNHAU. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn gofyn i’r rhai sy’n mynychu fod cystal â rhoi cyfraniad o £3 at ein gwaith fel y gallwn ymestyn ein sesiynau gan gyrraedd pobl hŷn ynysig ar draws Cymru.” Y sesiynau sy’n dechrau y mis hwn yw: RHYMNI, GWENT yng nghanolfan chwaraeon a chymunedol Ael y Bryn, Aneurin Terrace, Rhymni, Gwent, NP22 5DR ar ddydd Mercher olaf y mis rhwng 12.00-1.00pm gyda Carol Pegler yn arwain y sesiwn. TREDEGAR yn Llyfrgell Tredegar, Y Cylch, Tredegar, Gwent, NP22 3PS ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 12.00-1.00pm gyda Carol Pegler yn arwain. PEN-Y-BONT AR OGWR Eglwys St Theodore, Stryd Fawr, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 6DR ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Cheryl Davies yn arwain y sesiwn. CAERDYDD yn yr EGLWYS NEWYDD yn Eglwys Bedyddwyr Ararat, Plas Treoda, Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1PT ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 2.00-3.00pm gyda Geoff Ashford yn arwain y sesiwn. RHYDYPENNAU – CAERDYDD Eglwys yng Nghymru Park End, Heol Llandennis, Rhydypennau, Caerdydd, CF23 6EG – Mae hon yn SESIWN WYTHNOSOL, bob dydd Iau rhwng 10.30-11.30am gyda Sue Thomas yn arwain y sesiwn. RHIWBEINA – CAERDYDD yn Llyfrgell Rhiwbeina, Pen-y-Dre, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6EH ar drydydd dydd Mercher y mis rhwng 10.30-11.30am gyda Rachel Parry yn arwain y sesiwn. SIR GAERFYRDDIN CASTELL NEWYDD EMLYN Neuadd Gymunedol Eglwys y Drindod Sanctaidd, Lôn yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AM ar ddydd Llun olaf y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Claire Thomas yn arwain y sesiwn. CASTELL NEDD – PORT TALBOT sesiwn CEFNOGI DEMENTIA yng Nghapel Tabernacl, 14 Stryd Thomas, Pontardawe, Abertawe SA8 4HD ar ddydd Iau cyntaf y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Naomi Bishop yn arwain y sesiwn. BRO MORGANNWG DINAS POWYS, dylid nodi fod hyn AR GAU I’R CYHOEDD ac fe’i cynhelir mewn partneriaeth gyda C3SC – Cyngor Trydydd Sector Caerdydd Canolfan Gymunedol Murchfield, Sunnycroft Lane, Dinas Powys, CF64 4QQ sesiynau yn ôl y cais gyda Rachel Parry. LLANILLTUD FAWR yn Neuadd Lantonian, tu ôl i Glwb Rygbi Llanilltud Fawr, ger Heol Boverton, Llanilltud Fawr, CF61 1TF ar drydydd dydd Llun y mis rhwng 10.30am - 11.30am gyda Geoff Ashford. CADWCH EICH LLYGAID AR AGOR – caiff mwy o sesiynau eu hychwanegu yn fuan. Os hoffech wybod mwy ffoniwch Rachel Parry ar 07796 714816. DIWEDD Llun: Canu&Gwenu gydag elusen Goldies Cymru Ymholiadau’r wasg i Rachel Parry ar 07796 714816.
0 Comments
Leave a Reply. |
AuthorWrite something about yourself. No need to be fancy, just an overview. Archives
June 2024
Categories |