DATGANIAD I’R WASG Dydd Mercher Rhagfyr 1 2021 Caneuon Soffa Nadolig AUR Pan orfodwyd 220 o sesiynau canu poblogaidd GOLDIES yn ystod y dydd ar draws Lloegr a Chymru ym mis Mawrth 2020 oherwydd Covid, trodd yr elusen at y rhyngrwyd a lansio “canu soffa” ar Facebook ac YouTube gyda sesiynau ddwywaith yr wythnos gyda holl ganeuon Goldies poblogaidd o’r 70au ac ymlaen. Caiff sesiynau GoldiesLIVE.com eu darlledu ar ddyddiau Mawrth ac Iau bob wythnos a chânt eu harwain gan Rachel a Cheryl, dwy o arweinwyr sesiwn poblogaidd yr elusen. Ychwanegwyd sesiwn ychwanegol yn y Gymraeg, dan arweiniad Sian, yn yr hydref diwethaf. Mae sesiynau GoldiesLIVE.com yn cyrraedd cannoedd o bobl mewn partneriaeth gyda llawer o grwpiau cymorth i’r henoed, sefydliadau i bobl hŷn, cartrefi ymddeol, awdurdodau lleol a chynghorau tref. Yn ystod yr Nadolig bydd yr holl alawon hoff ar gael ar Goldies LIVE.com gyda rhifyn Nadolig arbennig ar Noswyl Nadolig. Dywedodd Rachel Parry, arweinydd rhaglen Goldies: “Mae hwn yn amser mor unig ar gyfer llawer o bobl hŷn y mae Covid wedi effeithio hyd yn oed fwy ar eu bywydau. Gobeithiwn y bydd llawer yn mwynhau eu Nadolig gyda ni a rydym eisiau ymestyn allan i bawb, yn arbennig deuluoedd a chymdogion pobl sy’n ynysig a hoffwn atgoffa pawb y gellir edrych eto a mwynhau’r sesiynau ar YouTube ar unrhyw amser.” Mae elusen Goldies wedi ailddechrau rhai sesiynau yn Lloegr ac mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu eu nifer drwy 2022. Ni chaiff sesiynau eu caniatáu yng Nghymru ar hyn o bryd er fod yr elusen yn barod i ailddechrau pan y caiff rheolau eu llacio. Bu GoldiesLIVE.com yn bosibl oherwydd cefnogaeth y Loteri Genedlaethol yn Lloegr a Chymru, Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post a Sefydliad Moondance yng Nghymru. DIWEDD Yn y llun gwelir Rachel Parry a Cheryl Davies, arweinwyr sesiwn GoldiesLive . Ymholiadau i Grenville Jones, sefydlydd Goildies 0777 828 2934 - [email protected] PRESS RELEASE Wednesday December 1 2021 GOLDEN Christmas sofa songs When Covid forced the closure of the 220 popular GOLDIES Sing and Smile daytime FUN singalongs across England and Wales in March 2020, the charity then turned to the internet and launched “sofa singing” via Facebook and YouTube with twice-weekly sessions featuring all those popular Goldies songs of the 70s and onwards. GoldiesLIVE.com sessions go out on Tuesdays and Thursdays each week and are led by two of the charity’s popular session leaders, Rachel and Cheryl. Last Autumn an additional Welsh language session was added, led by Sian. GoldiesLIVE.com sessions reach out to hundreds of people in partnership with many Age support groups, older persons organisations, retirement homes, Local Authorities and Town Councils. The Christmas week brings all those well-loved melodies on GoldiesLIVE.com with a Christmas Special added on Christmas Eve. Says Rachel Parry, Goldies programme leader; “This is such a lonely time for older people whose lives have been affected to an even greater degree by Covid. We hope that many will enjoy their Christmas with us and we want to reach out to tell everyone, especially the families and neighbours of isolated people and remind everyone that the sessions on YouTube can always be re-visited and enjoyed at any time.” Across England the Goldies Charity has re-started some sessions with plans to increase through 2022, meanwhile in Wales, sessions are still not permitted although the Charity is ready to re-start as and when rules are relaxed. GoldiesLIVE.com has been made possible by the support of the National Lottery in both England and Wales, Postcode Community Trust and the Moondance Foundation in Wales. ENDS Image shows Rachel Parry and Cheryl Davies our GoldiesLive session leaders. Enquiries to Goldies founder Grenville Jones 0777 828 2934 - [email protected]
1 Comment
|
AuthorWrite something about yourself. No need to be fancy, just an overview. Archives
June 2024
Categories |