DATGANIAD I’R WASG...
Bydd The Goldies Charity, sy’n adnabyddus a phoblogaidd am eu sesiynau canu cymdeithasol poblogaidd a hwyliog Canu&Gwenu ar draws Cymru a Lloegr yn dod â chymunedau ynghyd mewn steil i ddathlu Coroni’r Brenin ym mis mai! Cafodd The Golden-Oldies Charity, a gaiff ei galw fel arfer yn ‘Goldies’, ei sefydlu gan Grenville Jones, cerddor sy’n byw yng Nghaerfaddon, yn 2007. Mae dros 120 o grwpiau Canu&Gwenu erbyn hyn mewn gwahanol rannau o Gymru a Lloegr mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a neuaddau eglwys. Bydd Goldies yn dathlu penwythnos y Coroni yn eu holl grwpiau gyda llyfryn arbennig o ganeuon yn llawn caneuon o flynyddoedd cofiadwy y Brenin, yn cynnwys rhai gan ei hoff ffefrynnau – tebyg i The Three Degrees a berfformiodd yn ei barti pen-blwydd yn 30 oed yn 1978. Dywedodd Cheryl, Arweinydd Ardal Rhaglen Cymru: “Mae’n wych y byddwn yn dathlu Coroni’r Brenin yn ein sesiynau. Mae’n ddigwyddiad hanesyddol sy’n bwysig iawn i lawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein sesiynau. Rwyf wedi cael ymateb gwirioneddol gadarnhaol a chynifer o syniadau am yr hyn yr hoffent eu wneud yn y grwpiau. Bydd mis Mai yn fis llawen a chofiadwy.” Bydd pob grŵp yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, Thema Frenhinol gyda theisennau a snaciau i’w rhannu ac eitemau Brenhinol. Dywedodd Joanne, Arweinydd De Gwlad yr Haf (Somerset); “Mae Chard yn wirioneddol edrych ymlaen at wneud ein sesiwn ym mis Mai yn arbennig. Rydym yn ei ymestyn a byddwn i gyd yn gwisgo coch, gwyn a glas. Byddwn yn dod â thipyn o fwyd a diod ac yn edrych ymlaen at ychwanegu Cwis Brenhinol at y digwyddiadau.” Gyda’r nod o drechu unigrwydd mewn cymunedau lleol gyda gweithgareddau cerddorol HWYLIOG a CHALONOGOL, mae sesiynau Goldies yn llawn chwerthin a sgwrs gyda phobl yn canu caneuon poblogaidd o’r 50au ymlaen gyda’i gilydd. Mae caneuon poblogaidd gydag artistiaid fel Syr Cliff Richard – sy’n Llywydd yr elusen, Syr Tom Jones, Elvis, Dusty Springfield, Petula Clark a llawer mwy. Mae Stephanie yn arwain grŵp yn ne swydd Caerloyw: “Rwyf newydd gael fy mhecyn coroni, mor wych. Mae cymaint mwy o pobl yn ymuno â’n sesiwn ar hyn o bryd, bydd yn wych gweld pobl yn teimlo’n barod i ail-ymuno â’u cymuned leol ar ôl y pandemig. Mae pawb yn sôn pa mor wych mae tipyn o ganu gyda’i gilydd yn gwneud iddynt deimlo” MAE CANU YN DDA I CHI! Ar wahân i fod yn hwyliog a chodi’r galon, mae gan ganu lawer o fanteision i iechyd. Gall canu ysgogi ymatebion imiwnedd, rhyddhau endorffinau sy’n llacio poen, gwella cwsg a gostwng chwyrnu, gwella galluedd ysgyfaint ac ystum, a gwneud lles i gyhyrau’r wyneb a’r stumog. Mae canu yn wych am lacio straen hefyd a gwyddom ei fod yn dda am wella iechyd meddwl, cefnogi’r rhai sy’n profi galar a phrofedigaeth, a datblygu ymdeimlad o berthyn a bod wedi cysylltu. Dywedodd Monica, Arweinydd Sesiwn yn Swydd Efrog: “Cefais y pecyn Coroni drwy’r post, am syniad hyfryd. Bydd fy ngrwpiau yn dod ag ychydig o fwydydd a diodydd gyda nhw a phethau ar gyfer raffl. Byddant wrth eu bodd gyda’r pamffled ac mae nifer wedi gofyn am grysau-ti Goldies hefyd. Rydyn ni’n caru Goldies ac yn falch i fod yn rhan o’r elusen wych yma.” Diolch yn fawr i St Monica Trust ym Mryste am gefnogi ein sesiynau Canu&Gwenu ym Mryste, de Swydd Caerloyw, gogledd Gwlad yr Haf a B&NES gyda grant bach o gynllun Grant y Coroni. Mae Sefydliad Moondance yn gefnogwr gwych yng Nghymru. Mae sesiynau Canu&Gwenu Goldies ar agor i bawb, gan roi “rhywbeth i edrych ymlaen ato” i pobl, cyfle i fynd allan, gwneud ffrindiau newydd ac – yn bwysicaf oll –cael ychydig o hwyl. Nid côr yw Goldies, nid yw’n rhaid i chi fedru canu i ymuno, dim ond bod wrth eich bodd gyda cherddoriaeth a chwmni. Argymhellir cyfraniad o £3 am fynychu. Mae’r Côr pob amser yn awyddus i recriwtio arweinwyr sesiynau newydd a gwirfoddolwyr ac i glywed gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ynysig. Ewch i’r wefan www.golden-oldies.org.uk , ffonio’r swyddfa ar 01761 470006 neu anfon e-bost at [email protected] i gael mwy o wybodaeth.
1 Comment
|
AuthorWrite something about yourself. No need to be fancy, just an overview. Archives
June 2024
Categories |