Ymholiadau’r wasg at Grenville Jones ar 07778 282934.
Dod â’r Ifanc a’r Ifanc yn eu Calon ynghyd Bydd plant ysgol gynradd yn croesawu pobl hŷn o’u cymunedau lleol i’r ysgol wrth i brosiect newydd sy’n pontio’r cenedlaethau ddechrau ledled Cymru. Fe’i cefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ers ei lansio wyth mlynedd yn ôl, mae Elusen Golden Oldies wedi dod â chaneuon a gwenau i bobl hŷn ac ynysig ar draws De Cymru. Caiff y sesiynau hyn eu cynnal mewn llyfrgelloedd, ystafelloedd cymunedol a neuaddau eglwys ac mae bellach dros 60 sesiwn a gaiff eu harwain gan arweinwyr llawrydd ymroddedig. Cafodd yr elusen hefyd lwyddiant sylweddol gyda rhaglenni cysylltiedig ag ysgolion cynradd, gan ennill y Categori Addysg pwysig yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2018 a gyflwynwyd gan Katherine Jenkins. Daeth 60 o blant o Ysgol Gynradd Rhiwbeina ynghyd â 30 o bobl hŷn sy’n mynychu sesiwn Goldies Rhiwbeina ynghyd mewn ysgol i lansio’r prosiect newydd yn ddiweddar. Mae’r elusen wedi cynhyrchu canllawiau i’r prosiect, yn Gymraeg a Saesneg, sydd ar gael ar gyfer athrawon ysgol a hoffai wybod mwy. Dylai hyn, a phob ymholiad yn ymwneud ag ef, fynd at Cheryl Davies, Arweinydd Rhaglen Goldies Cymru, neu ffonio 07860 944410. www.goldiescymru.org.uk DIWEDD Llun: Plant o Ysgol Gynradd Rhiwbeina gyda’u hymwelwyr o sesiwn leol Goldies Cymru gyda Andy Roberts, arweinydd sesiwn Goldies, ar y tu blaen.
0 Comments
Leave a Reply. |
AuthorWrite something about yourself. No need to be fancy, just an overview. Archives
June 2024
Categories |